Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08:50 - 12:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio Ceri Breeze, Pennaeth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru Kath Palmer, Llywodraeth Cymru Geoff Marlow, Llywodraeth Cymru Jen Welsby, Llywodraeth Cymru John Davies, Legal Services, Welsh Government Chrishan Kamalan, Llywodraeth Cymru Margaret Frith, Llywodraeth Cymru Patricia Gavigan, Llywodraeth Cymru Piers Bisson, Public Service Reform Division Robin Jones, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Sarah Beasley (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas, Jocelyn Davies a Janet Finch-Saunders.
2 Y Bil Tai (Cymru): Cyfnod 1 Sesiwn 10 - Gweinidog Tai ac Adfywio
2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i:
· ddarparu gwybodaeth am a ellid cynnwys darpariaethau yn y Bil i ganiatáu awdurdodau lleol a/ neu adrannau perthnasol i rannu data er mwyn eu helpu i ganfod landlordiaid yn y sector rhentu preifat, a helpu i ddod o hyd i achosion o dwyll budd-dal tai;
· nodi pa gamau pellach y gellid eu cymryd i wella safonau diogelwch o fewn y sector rhentu preifat, yn enwedig diogelwch trydan a nwy, gan dderbyn cyfyngiadau'r Cynulliad o ran cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, a sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn y tymor hwy;
· nodi'r gofynion presennol o ran y cymorth sydd ar gael i garcharorion cyn eu rhyddhau o'r carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau i helpu i fynd i'r afael â'u hanghenion tai, ac i ba raddau y mae'r rhain yn cael eu bodloni;
· nodi, mewn perthynas â'r uchod, unrhyw feysydd i'w gwella a nodwyd gan y gweithgor ar adsefydlu carcharorion mewn llety a sut y bydd y Bil yn cyfrannu tuag at gyflawni hyn; a
· darparu manylion am y polisi rhent tai cymdeithasol newydd, sut y mae'n cysylltu â system Cymhorthdal y Cyfrif Budd-dal Tai presennol, a fydd canllawiau ar bennu rhent yn statudol a sut y byddant yn cael eu gorfodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4 Trafod tystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil Tai (Cymru)
4.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio am y Bil.
5 Gwybodaeth dechnegol: Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gweithlu) (Cymru) Drafft
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn briffio technegol ar y Bil drafft.
6 Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon: trafod yr adroddiad
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
7 Trafod y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
8 Trafod llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar yr ymchwiliad i rwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ar yr ymchwiliad i rwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru.
9 Papurau i’w nodi
9.1 Papurau i’w nodi.